Welsh Government Code of Practice for Ethical Employment launched

Published on: 9 March 2017

A new Code of Practice for Ethical Employment in Supply Chains in the Welsh public sector has been launched by Cabinet Secretary for Finance and Local Government Mark Drakeford during a meeting of the Workforce Partnership Council in Cardiff today.

A new Code of Practice for Ethical Employment in Supply Chains in the Welsh public sector has been launched by Cabinet Secretary for Finance and Local Government Mark Drakeford during a meeting of the Workforce Partnership Council in Cardiff today.

At the centre of the Code is a focus on guaranteeing good employment practices for the millions of employees involved in public sector supply chains.

All public sector organisations in Wales, businesses and third sector organisations in receipt of Welsh public sector funding will be expected to sign up to the code.  Other organisations and businesses based in Wales are encouraged to sign up to the code.

The new code covers six key subjects, containing 12 commitments, ranging from unlawful and unethical practices to good and best practice.  It has been developed with the support of the Workforce Partnership Council and social partners including Unions.

The first subject is Modern Slavery, estimated to affect fifty million people worldwide including in the UK and Wales.  The Code of Practice, and accompanying guidance, will enable staff to spot and deal with allegations and to identify and assess spend areas at higher risk of modern slavery and human right abuses.

The second area in the Code is Blacklisting, when workers are discriminated against if they join a Union or raise Health and Safety concerns.  The Code of Practice, and accompanying guidance, contains a commitment to ensure suppliers are not using blacklists and sets out how to avoid companies that have not taken the issue seriously.

The next three areas relate to terms and conditions of employment, including Zero hours contracts, Umbrella Schemes and False Self-Employment.  The Code of Practice, and accompanying guidance, will help staff to differentiate between fair and unfair practices.  The Guide also includes a Fair Work Practices tender question to deal with these issues through procurement.

The final area relates to the Living Wage and contains a commitment to consider paying all staff a Living Wage as a minimum.

In signing up to the Code, organisations will agree to comply with the 12 commitments designed to eliminate modern slavery and support ethical employment practices.

Mark Drakeford said:  “I am very pleased to be launching our Ethical Code in Supply Chains at the Workforce Partnership Council today.  This is a ground-breaking piece of work – and an excellent example of what working in social partnership across Wales can deliver.

“The Welsh public sector spends around £6bn every year on goods, services and works involving international supply chains. The uniting factor is the people involved in each stage of these supply chains.

“It is therefore vital that good employment practices are at centre of all public sector projects here in Wales.  This new code will play an important role in helping achieve this and in turn tackle unfair employment practices and contribute to improved conditions for workers.

“I expect all public sector bodies in Wales, Welsh businesses and suppliers to the Welsh public sector to sign up to this code.  It is only by working together that we can help deliver a better, and crucially, a fairer deal for workers in our supply chains in Wales and throughout the world.”

Martin Mansfield, Wales TUC General Secretary said:   “This new code of practice is a very welcome step on the way to ensuring that Wales becomes a ‘fair work nation’.

“Welsh government has a strong commitment to address exploitative and unethical employment practices and is taking action to enforce that.  The Wales TUC wants to see all the powers and influence available to government used to ensure people are treated fairly at work.

“Wales has many great employers who provide career opportunities and development for staff and work in partnership with unions .  However there are still too many bad bosses who seek to exploit workers and undermine decent standards in order to enrich themselves.

“This code is an indication that Wales will not tolerate exploitation.  Now we need similar action to ensure decent work and fair treatment are the only way in Wales.”

Case Studies

Knox & Wells Ltd

Knox & Wells is a Welsh construction specialist, based in Cardiff and founded in 1888.  The company employs 70 people from the South Wales area. 

In 2016, the company became an accredited Living Wage Employer, as they were keen to support Cardiff Council and the Welsh Government with their five-year strategy to make Wales a Living Wage economy.  The company has recently been promoting The Living Wage and CSR (Corporate Social Responsibility) with their supply chains by including these topics within their regular training seminars.  Therefore, signing up to the Welsh Government’s Code of Practice on Ethical Employment in Supply Chains, was a natural progression for the company to help develop lasting and sustainable local supply chains. 

Adrian Lewis,  Finance Director said:  “As a company Knox & Wells have been working hard to continually train and upskill our workforce and supply chains and to support and help each other as a team.  What we realise is that we can’t do it on our own however, and our subcontractors and supply chain are well and truly part of the team and we see them as our extended family.  We know that if we intend to grow then they need to grow with us too.  As a result we are keen to support the Welsh Government in its Code of Practice on Ethical Employment in Supply Chains.  We see it a as a tool to help achieve an environment where our supply chains can prosper and become lasting and sustainable.”

Capgemini

With more than 180,000 people in over 40 countries, Capgemini is a global leader in consulting, technology and outsourcing services. Together with its clients, Capgemini creates and delivers business, technology and digital solutions that fit their needs, enabling them to achieve innovation and competitiveness.   

Andy McDonough, Senior Account Executive, Capgemini said:  “At Capgemini, our commitment to high ethical standards and our core values underpin our business practices. We welcome the opportunity to affirm our commitment to human rights and ethical labour practices in our supply chain by being the first to sign up to the Welsh Government’s new Code of Practice on Ethical Employment in Supply Chains.

 

Notes

 

The Code of Conduct for Ethical Employment in supply chains is attached.

http://gov.wales/topics/improvingservices/bettervfm/code-of-practice/?lang=en

https://tiscreport.org/files/29358codeofpracticeethicalemploymentinsupplychainsenglishwebpdf

https://tiscreport.org/files/29358codeofpracticeethicalemploymentinsupplychainswelshwebpdf

 

Lansio Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol

Mae Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi newydd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru wedi cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yng Nghaerdydd heddiw.

Diben y Cod yw sicrhau arferion cyflogaeth da ar gyfer y miliynau o weithwyr sy'n rhan o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.

Bydd disgwyl i holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector sy'n cael arian gan y sector cyhoeddus ymrwymo i'r Cod hwn. Mae sefydliadau a busnesau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i ymrwymo iddo hefyd.

Mae'r cod newydd yn cynnwys chwe pwnc allweddol a deuddeg ymrwymiad, sy'n amrywio o arferion anghyfreithlon ac anfoesol i arferion da a'r arferion gorau. Cafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a phartneriaid cymdeithasol fel Undebau.

Y pwnc cyntaf yw Caethwasiaeth Fodern, sydd, yn ôl amcangyfrifon, yn effeithio ar hanner can miliwn o bobl ar draws y byd gan gynnwys unigolion yn y DU a Chymru. Bydd y Cod Ymarfer a'r canllawiau sy’n cyd-fynd ag ef yn helpu staff i sylwi ar achosion ac ymdrin â honiadau. Bydd hefyd yn eu helpu i nodi'r meysydd gwariant hynny lle mae risg uwch o gaethwasiaeth fodern ac o dorri hawliau dynol, a'u hasesu. 

Yr ail faes dan sylw yn y Cod yw Cosbrestru, lle mae gweithwyr yn cael eu trin yn anffafriol oherwydd eu bod yn ymuno ag Undeb neu'n lleisio pryder ynghylch Iechyd a Diogelwch. Mae'r Cod Ymarfer a'r canllawiau yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau nad yw cyflenwyr yn defnyddio cosbrestri ac yn egluro sut i osgoi cwmnïau sydd ddim yn cymryd y mater o ddifri.

Mae'r tri maes nesaf yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogaeth, gan gynnwys Contractau dim oriau, Cynlluniau Mantell a Hunangyflogaeth Ffug. Bydd y Cod Ymarfer a'r canllawiau yn helpu staff i wahaniaethu rhwng arferion teg ac annheg. Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys cwestiwn tendro ar Arferion Gweithio Teg er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn drwy'r broses gaffael.

Y maes olaf dan sylw yw'r Cyflog Byw ac mae'n cynnwys ymrwymiad i ystyried talu Cyflog Byw fan leiaf i'r holl staff.

Wrth ymrwymo i'r Cod, bydd y sefydliadau'n cytuno i gydymffurfio â'r 12 ymrwymiad sydd â’r nod o ddileu caethwasiaeth fodern ac o gefnogi arferion cyflogaeth moesegol.

Dywedodd Mark Drakeford: "Rwyf yn falch iawn o gael lansio ein Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu heddiw. Dyma ddarn o waith arloesol, ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol drwy Gymru gyfan.

"Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario tua £6 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol. Yr hyn sy'n gyffredin i bob un o'r cadwyni cyflenwi hyn yw'r bobl sy'n rhan o bob cam.

"Mae'n hanfodol felly fod arferion cyflogaeth da yn rhan annatod o holl brosiectau'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Bydd y cod newydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gyflawni hyn. Yn ei dro, bydd hefyd yn mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth annheg ac yn cyfrannu at gael amodau gwell i'r gweithwyr. 

"Rwy'n disgwyl i bob corff cyhoeddus, pob busnes a phob cyflenwr y sector cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i'r cod hwn. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau tecach, i weithwyr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y byd."

Dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: "Rydyn ni'n croesawu'r cod ymarfer newydd hwn sy'n gam ymlaen i sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl lle  mae tegwch yn y gweithle.

"Mae Llywodraeth Cymru'n arddel ymrwymiad cadarn i fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth sy’n ecsploetio ac sy’n anfoesol ac mae'n cymryd camau i newid hynnny. Mae TUC Cymru eisiau gweld y Llywodraeth yn defnyddio'i holl bwerau a'i dylanwad i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg yn y gwaith.

"Mae gan Gymru lawer o gyflogwyr arbennig o dda sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa a datblygu i staff ac yn cydweithio gydag undebau. Ond, mae gormod o reolwyr gwael yn parhau i fodoli sy'n ecsploetio gweithwyr ac yn tanseilio safonau er eu lles a’u cyfoeth eu hunain.

Mae'r cod hwn yn dangos na fydd Cymru'n goddef unrhyw fath o ecsploetio. Mae angen gweithredu nawr i sicrhau mai gwaith safonol a thriniaeth deg yw'r unig ffordd ymlaen yng Nghymru."

 

Astudiaethau Achos

Knox & Wells Ltd

Arbenigwr adeiladu yng Nghaerdydd a sefydlwyd yn 1888 yw Knox & Wells. Mae'r cwmni'n cyflogi 70 o bobl yn ardal y De.

Yn 2016, daeth y cwmni'n Gyflogwr Cyflog Byw achrededig gan eu bod yn awyddus i gefnogi Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru gyda'u strategaeth bum mlynedd i sicrhau bod Cymru'n economi Cyflog Byw. Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi bod yn hybu'r Cyflog Byw a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ymysg eu cadwyni cyflenwi drwy roi sylw i’r ddau bwnc yn eu seminarau hyfforddi cyson. Roedd ymrwymo i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn gam naturiol i'r cwmni felly er mwyn helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol sy'n gynaliadwy, ac a fydd yn goroesi yn y tymor hir.

Dywedodd Adrian Lewis, y Cyfarwyddwr Cyllid: "Fel cwmni, mae Knox & Wells wedi bod yn gweithio'n galed i hyfforddi a gwella sgiliau ein gweithlu a'n cadwyni cyflenwi ac i gefnogi a helpu'n gilydd fel tîm. Beth ry'n ni wedi sylwi yw na allwn ni wneud hynny ein hunain. Mae ein his-gontractwyr a'n cadwyni cyflenwi wir yn rhan o'r tîm, ry’n ni’n eu gweld fel rhan o’n teulu estynedig. Er mwyn inni ddatblygu a thyfu ry’n ni’n gwybod bod angen iddyn nhw dyfu hefyd. Felly, rydyn ni'n awyddus i gefnogi Llywodraeth Cymru a'i Chod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Ry'n ni'n ei weld fel arf fydd yn ein helpu i gyrraedd sefyllfa lle bydd ein cadwyni cyflenwi'n ffynnu, yn gynaliadwy ac yn para."

 

Capgemini

Gyda thros 180,000 o bobl mewn mwy na 40 o wledydd, Capgemini yw un o arweinwyr byd-eang y maes ymgynghori, technoleg a threfnu gwasanaethau drwy gontractau allanol. Ar y cyd â'i gwsmeriaid, mae Capgemini yn creu ac yn darparu atebion busnes, technoleg a digidol sy'n diwallu eu hanghenion, a'u galluogi i arloesi a chystadlu.

Dywedodd Andy McDonough, Uwch-swyddog Cyfrif Capgemini: "Yn Capgemini, mae ein hymrwymiad i safonau moesegol uchel a'n gwerthoedd craidd yn sail gadarn i'n harferion busnes. Ry’n ni'n croesawu'r cyfle i bwysleisio ein hymrwymiad i hawliau dynol ac arferion gwaith moesegol yn ein cadwyn gyflenwi drwy fod y cyntaf i ymrwymo i God Ymarfer newydd Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Nodiadau

Mae’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi’ atodi.

 

Nodyn Gweithredol

Bydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Iau, 9 Mawrth. Nid yw hwn yn gyfarfod agored ond bydd cyfle i ffilmio pobl ar ddiwedd y cyfarfod. 

Bydd cyfle hefyd i gyfweld â’r Ysgrifennydd Cyllid.

Dyddiad: Dydd Iau 9 Mawrth 2017
Amser: 1:30pm (bydd angen ichi gyrraedd am 1.15pm er mwyn caniatáu amser ar gyfer cofrestru a gosod eich offer)
Lleoliad:  Swyddfa Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

 

Er mwyn cadarnhau eich presenoldeb neu i ofyn am gyfweliad gyda'r Ysgrifennydd Cyllid, cysylltwch â Sara Parry ar 029 2089 8683.

 

 

Martyn Williams Chart.PR MCIPR

Swyddog y Wasg / Press Officer

Swyddfa’r Wasg  / Press Office

Llywodraeth Cymru/Welsh Government

Ffôn/Tel: 0300 025 8329 / 07896 045592